Yn 1865, hwyliodd long llawn dynion a phlant o Lerpwl i Batagonia, yn y gobaith o greu'r Gymru newydd. Bu'r llong, o'r enw Mimosa, yn teithio i Dde Amerig am ddau fis gyda 159 o bobl, a'r rhan fwyaf ohonynt o ardal Bala a'r cylch. Heddiw, mae oddeutu 150,000 o bobl yn byw ym Mhatagonia gyda tua 20,000 o linach Cymreig a rhyw 5,000 yn medru'r Gymraeg.

Wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd, mae Mimosa Cegin & Bar wedi’i gynllunio’n gyfoes ac yn denu cyfuniad o yfwyr a bwytwyr mewn awyrgylch gyffrous ond ddiffwdan.

Gyda bar dur wedi’i frwsio syfrdanol a sedd ffeuen 5 medr, mae’r tu fewn wedi ei gynllunio gan ddefnyddio gwead naturiol llechen Gymreig, pren Wenge a seti lledr.

Mae gan Mimosa Cegin & Bar fwydlen gyfoes gan ddefnyddio cynnyrch o ansawdd gorau, wedi’u paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbennigol a phrofiadol.

fairtade logo

Lle’n bosibl, rydym wedi defnyddio cynhwysion lleol, buarth a cynnyrch Masnach Deg lle gallwn olrhain hanes y cynnyrch 100%.

Mae ein rhestr o ddiodydd yn cynnwys rhai o winoedd hudolus y byd, detholiad cynhwysfawr o goctels clasurol a dewis eang o gwrw a gwirodydd.